BoltRead

Yr Hwiangerddi

by Sir Owen Morgan Edwards

cy · ~50 min at 250 WPM

Casgliad o hen hwiangerddi Cymru yw'r llyfr hwn, wedi eu casglu gan Syr Owen Morgan Edwards dros ugain mlynedd o bron bob ardal yng Nghymru. Mae'n agor â myfyrdod hiraethus ar y caneuon a glywsom gyntaf ar lin mam neu forwyn, cyn cyflwyno'r penillion eu hunain. Down ar draws chwarae bysedd a thraed, dawnsio gwyllt ar y glin, antur fawr "Gyrru i Gaer", a'r ebol melyn enwog. Caneuon i suo plentyn i gwsg ydynt, a chaneuon i'w gadw'n ddiddig pan fo ar ddihun.

Trwy'r cyfan, dadleua Edwards mai'r hwiangerddi yw addysg orau plentyndod — addysg sy'n parchu awydd y plentyn i symud, parablu a dychmygu. Ynddynt clywir llais greddf mamau'r oesoedd a llawenydd iach diniwed. Myn y llyfr hefyd eu lle fel llenyddiaeth: yn ôl Edwards, gellir adnabod cymeriad cenedl gyfan trwy ddarllen ei cherddi hwian. Trysor cenedlaethol sy'n cadw cof gwlad yn fyw, ac arwydd o ddyfodol gobeithiol i'r Gymraeg yn ei chartrefi a'i hysgolion.

Read this book

How it begins

Ambell orig daw hen hwiangerdd, fel su melodaidd o gartref pell a hoff, i’r meddwl. Daw un arall ar ei hol, ac un arall,—a chyda hwy daw adgofion cyntaf bore oes. Daw’r llais mwynaf a glywsom erioed i’n clust yn ol, drwy stormydd blynyddoedd maith; daw cof am ddeffro a sylwi pan oedd popeth yn newydd a rhyfedd. A daw ymholi ond odid. Beth yw tarddle swyn yr hen gerddi hwian syml hyn? Pa nifer ohonynt fedraf? Pa nifer sydd ohonynt yn llenyddiaeth Cymru? A ydynt yn llenyddiaeth? Beth fu eu dylanwad ar fy mywyd? A adawsant ryw nod ar lenyddiaeth Cymru? O ble y daethant? Y mae iddynt ddau darddiad. Yn un peth,—y maent yn adlais o ryw hen bennill genid gyda’r delyn. Cofid y rhannau mwyaf melodaidd, rhyw seiniau fynnai aros yn y glust, gan fam neu forwyn, a byddent yn llais i lawenydd y galon wrth suo’r plentyn i gwsg. A ffynhonnell arall,—yr oedd y fam yn creu cerddi hwian, nid i wneyd i’r plentyn gysgu, ond i’w gadw’n ddiddig pan ar ddihun. Ac y mae cof gwlad wedi trysori ymgais y mamau mwyaf athrylithgar. Ar ei fysedd y sylwa plentyn i ddechreu. Hwy ddefnyddia’r fam yn deganau cyntaf. Rhoddir enwau arnynt,—Modryb ’y Mawd, Bys yr uwd, Hirfys, Cwtfys, Bys bach, neu ryw enwau ereill.

Text from Project Gutenberg, public domain.