BoltRead

Gwaith Alun

by John Blackwell

cy · ~90 min at 250 WPM

Casgliad o waith John Blackwell (Alun), bardd a llenor o ardal yr Wyddgrug, yw'r gyfrol hon, wedi ei threfnu gan Owen M. Edwards yn ôl trefn amseryddol bywyd y bardd. Olrhain a wna'r dewisiad daith Alun o'i fagwraeth dlawd a'i brentisiaeth at grydd, trwy ei lwyddiannau eisteddfodol cynnar gyda'r awdlau "Genedigaeth Iorwerth II" a "Maes Garmon," ymlaen i'w gyfnod yn Aberiw, ei addysg yn Rhydychen, a'i flynyddoedd fel clerigwr ym Maenor Deifi. Ceir yma awdlau, cywyddau, englynion, emynau a thraethodau rhyddiaith, ynghyd â chyfieithiadau a cherddi serch a galar.

Mawl a chrefydd, cariad at iaith a gwlad Cymru, a thlysni byd natur sy'n llifo trwy'r caniadau, ynghyd â galar a hiraeth am hen amser a hen gyfeillion. Pwysig yw'r gwaith am ei fod yn cadw llais "Eos Cymru"—bardd a gyfunai ddwyster crefyddol â chywreinrwydd ffurf a phurdeb iaith, gan adael ei nodau melys yng nghlust ei genedl.

Read this book

How it begins

Ganwyd John Blackwell ( Alun ) mewn bwthyn ger y Wyddgrug yn 1797. Un o Langwm oedd ei fam—gwraig ddarbodus a meddylgar; a dilynai ei mab hi i’r seiat a’r Ysgol Sul, gan hynodi ei hun fel dysgwr adnodau ac adroddwr emynau. Mwnwr call, dwys, distaw, oedd ei dad, a pheth gwaed Seisnig ynddo; cydymdeimlai yntau â’i fachgen. Yn unarddeg oed, heb addysg ysgol ond yn awyddus am wybodaeth, prentisiwyd ef gyda chrydd oedd yn fardd. Pan yn ddwy ar bymtheg, wedi bwrw ei brentisiaeth, medrai fforddio prynnu llyfrau; a cherddai’n aml i Gaer i chwilio’r siopau. Derbyniai gylchgronau, prynnai lyfrau Cymraeg, chwiliai am feirdd. Llenorion yr ardal oedd ei gyfeillion, y gynghanedd ei hoffter. Yn 1823 disgleiriodd fel seren yn awyr Eisteddfod Cymru. Yn Eisteddfodau Rhuthyn, Caerwys a’r Wyddgrug tynnodd sylw; gyda’i awdl Genedigaeth Iorwerth II. yn y gyntaf, a chyda’i awdl Maes Garmon yn yr olaf. Yr oedd ei fryd erbyn hyn ar gymeryd urddau eglwysig, a chafodd noddwyr caredig. Yn 1824 aeth i’r Beriw, pentref hyfryd ger y fan yr abera afon Rhiw i afon Hafren. Yma dysgai Ladin a Groeg gyda’r ficer, y Parch. Thomas Richards. Yn y lle tawel Seisnig hwn, cymerodd ei awen edyn ysgafnach, cywreiniach. Clerigwyr pobtu’r Hafren oedd ei gyfeillion, ac yn eu mysg yr oedd Gwallter Mechain ac Ifor Ceri.

Text from Project Gutenberg, public domain.