Gwaith Mynyddog. Cyfrol II
Mae Gwaith Mynyddog: Cyfrol II yn gasgliad o ganeuon a cherddi gan y bardd Mynyddog (Richard Davies), wedi eu casglu ynghyd ar ôl ei farwolaeth. Ynddo ceir caneuon ysgafn a thelynegion am natur, cariad a bywyd gwledig Cymru, ynghyd â cherddi gwladgarol megis "Cymru, Gwlad y Gân" a "Chwi Feibion Dewrion." Ceir hefyd ddarnau digrif a doniol, fel "Taro yr Hoel ar ei Phen," wrth ymyl cerddi mwy prudd a hiraethus fel "Hen Adgofion." Cyflwynir y gyfrol gan Owen M. Edwards, sy'n canmol symlrwydd a synnwyr cyffredin y bardd.
Ei thema bennaf yw'r cariad at hen wlad y tadau—at ei mynyddoedd, ei nentydd a'i phobl—a hynny'n ddiffuant ac yn anhunanol. Saif gwerth y caneuon yn eu naturioldeb a'u doethineb diaddurn, yn cyfuno afiaith ieuenctid â phrofiad aeddfed. Maent yn dal i siarad â chenedl gyfan oherwydd nad canu i'r bardd ei hun a wnaeth Mynyddog, ond canu i'w bobl, gan adael etifeddiaeth o gyfeillgarwch, hiwmor a gwladgarwch sy'n parhau'n fyw yng nghof y Cymry.
How it begins
Ail gyfrol yw hon o’r caneuon ganai Mynyddog heb feddwl eu cyhoeddi hwyrach. Canodd hwy fel y cân aderyn. Y maent yn aros yng nghof pawb a’u clywodd, er hynny. Ac oni ddylai pobl ieuainc na chlywsant Fynyddog eu cael? Oni ddylent redeg drwy fywyd ein cenedl fel y rhêd aber y mynydd trwy’n cymoedd? Oherwydd, yn un peth, y maent yn ganeuon cyfeillgarwch a chymdeithas fwyn. Y mae i gwmniaeth, yn gystal ag unigedd, ei le ym mywyd ein henaid. O’r aelwyd i’r Eisteddfod hoffai Mynyddog ei bobl,— “Rwy’n caru hen wlad fy nhadau Gyda’i thelyn, ei henglyn, a’i hwyl, Rwy’n caru cael bechgyn y bryniau Gyda thân yn y gân yn eu gwyl.” Cadwant, hefyd, naturioldeb ieuenctid gyda doethineb profiad. Dyna nerth Mynyddog. Y mae gwythien o synwyr cyffredin cryf yn rhedeg trwy ei holl ganeuon. Y mae hon yn rhoi gwerth arhosol ar y gân ysgafnaf fedd. Hyd yn oed wrth ddarlunio carwriaeth rhydd ergyd na roddodd yr un pulpud ei grymusach. Y mae’r synwyr cyffredin hwn yn gwneud ei hynawsedd mor ddoeth, ei ddigrifwch mor naturiol, ei bartiaeth mor henffel, fel y tybiwn ei fod yn codi uwchlaw ymrysonau ei ddydd, ac yn aros gyda’i genedl, gan dyfu gyda hi. A hawdd i genedl hoffus ddarllen ei meddwl i ganeuon Mynyddog, fel y derllyn tad ei feddyliau dyfnaf i afiaith parablus ei blentyn.
Text from Project Gutenberg, public domain.