Gwaith Samuel Roberts
O'r Diwygiad y cododd teulu nodedig Llanbrynmair, ac o'r teulu hwnnw y daw Samuel Roberts (S. R.), mab i John Roberts, gweinidog Hen Gapel Llanbrynmair. Mae'r casgliad hwn yn dwyn ynghyd ddwy ran nodweddiadol o'i waith. Yn y Caniadau Byrion ceir cerddi syml a phoblogaidd fel "Y Teulu Dedwydd," sy'n darlunio bwthyn dedwydd ar ael y bryn. Yn "Cilhaul Uchaf" dilynwn John Careful, ffermwr gonest a gosbir am wella'i dir â cholli'i arian, codi'i rent a'i drethi, nes ei orfodi i adael ei gartref a throi ei olwg tua'r Amerig. Ceir hefyd hanesion byrion am fywydau distadl gwerinwyr cyffredin.
Mae gwaith S. R. yn llais i amaethwyr Cymru ac i'r werin yn erbyn gorthrwm meistri tir a stiwardiaid. Trwy dynerwch mwyn, dyngarwch syml a synnwyr cyffredin cryf, mae'n amddiffyn y tlawd, yn condemnio caethwasiaeth a chreulondeb, ac yn coffáu urddas bywyd gwledig. Dyma ddarlun gwir a gwerthfawr o Gymru'r ganrif ddiwethaf, a fu'n foddion cysur ac addysg i genedlaethau.
How it begins
O’r Diwygiad y cododd teulu galluog S. R. Yr oedd ei dad, John Roberts, er 1798 yn olynydd i Richard Tibbot a Lewis Rees fel gweinidog Hen Gapel Llanbrynmair. Dyma enwau aelodau mwyaf adnabyddus y teulu,— John Roberts - Mary Brees y Coed. (1767-1834) | | +--------+------------+--------+-------------+ Maria Samuel Anna John Richard (1797) ( S . R .) (1801) (J.R.) ( Gruffydd Rhisiart ) | (1800-1885) (1804-1884) (1810-1883) | Gohebydd - 1877. Symudodd John Roberts a’i deulu, tua 1806, o Dy’r Capel i ffermdy y Diosg dros yr afon ar gyfer. “Tyddyn bychan gwlyb, oer, creigiog, anial, yng nghefn haul, ar ochr ogleddol llechwedd serth” oedd y Diosg; ac efe yw Cilhaul. Daeth S. R. yn gynorthwywr i’w dad fel gweinidog yn 1827; dilynodd ef fel tenant y Diosg yn 1834. Cyn 1856, yr oedd y brodyr wedi penderfynu gadael Llanbrynmair,—aeth J. R. yn weinidog i Ruthyn, a hwyliodd S. R. a Gruffydd Rhisiart i’r America. Cychwynodd S. R. o Lerpwl Mai 6, 1857; cyrhaeddodd yno ’n ol Awst 30, 1867. Yr oedd wedi ei siomi yn y gorllewin ac wedi troi ei gefn ar dŷ ei alltudiaeth,—Bryn y Ffynnon, Scott Co., East Tennessee. Cafodd ei dwyllo gan y rhai oedd yn gwerthu tir; darlunnir hwy ym Martin Chuzzlewit Dickens. Nid oedd wedi sylweddoli, hwyrach, mor erwin yw’r ymdrech mewn gwlad anial.
Text from Project Gutenberg, public domain.