Gwaith Twm o'r Nant / Cyfrol 2
Dyma ail gyfrol o waith Thomas Edwards (Twm o'r Nant, 1739–1810), gwerinwr o Sir Ddinbych a enillodd ei damaid yn canlyn ceffylau a llwytho coed cyn troi'n brif ddramodydd ei oes. Mae'r gyfrol hon yn casglu gwaith ei aeddfedrwydd a'i henaint: cerddi fel "Dau Fywyd," sy'n cyferbynnu ffyniant yr amaethwr â thlodi'r prydydd, "Cywydd Henaint" a "Cyffes y Bardd," ynghyd â'i interliwd fawr "Pedair Colofn Gwladwriaeth," sy'n dwyn y Brenin, yr Esgob, yr Ustus a'r Hwsmon i lwyfan i ddangos gwead bywyd y wladwriaeth.
Drwy'r cyfan rhed cydymdeimlad Twm â'r werin a'r tenant gorthrymedig, ynghyd ag ysbryd y Chwyldro Ffrengig wedi'i dymheru gan ffydd a moeswers y Diwygiad. Ei gymeriadau byw a'i dafod miniog sy'n gwneud y gwaith hwn yn ddrych anghymarol o fywyd Cymru'r ddeunawfed ganrif. Fel dramodydd, saif Twm o'r Nant heb neb yn agos ato yn ein llenyddiaeth, yn dweud y gwir wrth sant a phechadur fel ei gilydd.
How it begins
Ganwyd Thomas Edwards ( Twm o’r Nant ) ym Mhen Porchell, Llan Nefydd, yn 1739. Pan nad oedd ef ond hogyn, symudodd ei rieni i’r Nant Ganol, Henllan. Nid oedd dim yn neillduol, hyd y gwyddis, yn ei rieni; gweithient yn galed, ac nid o’u bodd y rhoddai eu bachgen athrylithgar ei amser gorffwys i lyfrau. Ennill ei damaid oedd neges ei fywyd. Canlyn ceffylau, gyrru gwagen, a llwytho coed, oedd ei brif orchestion. O amgylch Dinbych y treuliodd ran fwyaf ei oes, er iddo grwydro i ddyffrynoedd Hafren a Thowi yn ei dro; yn Nyffryn Clwyd hefyd y treuliodd ei henaint. Yr oedd yn wr cadarn o gorff, parod ei ddyfais, ond ni lwyddodd yn y byd. Bu farw Ebrill 3, 1810, gan mlynedd i eleni; a chladdwyd ef ym mynwent yr Eglwys Wen, ger Dinbych. Yn anhymig y ganwyd ef, a dyna’r pam na chafodd ei athrylith, er cryfed ei hadenydd ac er cliried ei llygaid, ei lle priodol ym meddwl Cymru. Pe ganesid ef yn gynt, cawsai feddwl Cymru iddo ei hun; a hwyrach y buasai cenedl yn deffro i weled ei hun yn nrych y ddrama. Pe ganesid ef yn ddiweddarach, buasai’r Diwygiad wedi puro ei genedl ac wedi sancteiddio ei enaid yntau, a gallasai ddangos ei hun i genedl newydd yn yr un drych.
Text from Project Gutenberg, public domain.