BoltRead

Cartrefi Cymru

by Sir Owen Morgan Edwards

cy · ~135 min at 250 WPM

Dyma gasgliad o ysgrifau gan Owen Morgan Edwards (O.M.) yn cofnodi ei deithiau i gartrefi rhai o Gymry enwocaf y gorffennol. Aiff yr awdur o le i le—Pant y Celyn, cartref Williams Pantycelyn; Trefeca, cartref Howel Harris; Dolwar Fechan, cartref Ann Griffiths; Tyddewi, cartref y nawddsant—gan ddisgrifio’r tirlun, yr adeiladau a’r bobl a gyfarfu ar y ffordd. Trwy bob taith, mae’n dwyn i gof fywyd a gwaith y pregethwr, y bardd, y merthyr neu’r emynydd a fagwyd yno, gan blethu hanes a myfyrdod yn un.

Llyfr am y berthynas rhwng lle a chymeriad ydyw, yn dangos sut y mae bro a chartref yn llunio dawn ac argyhoeddiad pobl. Mae’n ddathliad cynnes o dreftadaeth grefyddol, lenyddol a gwladgarol Cymru, ac o’r werin a gadwodd y cof am ei harwyr yn fyw. Â’i ryddiaith goeth a’i gariad amlwg at ei wlad, mae Edwards yn galw’r darllenydd i werthfawrogi gwreiddiau dwfn diwylliant Cymreig ac i’w trysori.

Read this book

How it begins

Dyma gartref Edmund Prys, swynwr yn ol cred gwlad, arch-ddiacon Meirionnydd wrth ei swydd, a chyfieithydd melodaidd y Salmau. Ganwyd ef tua 1541, bu farw tua 1621. Nid edwyn neb le ei fedd ym Maentwrog. IV .— PANT Y CELYN ,— Cartref Per Ganiedydd . Amaethdy ymysg bryniau Caerfyrddin, yn nyffryn Towi, yw Pant y Celyn. O Lanymddyfri yr eir yno. Ganwyd “per ganiedydd Cymru,” gerllaw iddo yn 1717; bu farw yno Ionawr 11, 1791. V .— BRYN TYNORIAD ,— Cartref Gwladgarwr . Y mae Bryn Tynoriad yn nyffryn yr Wnion, ar ochr y Garneddwen, yn agos i orsaf Drws Nant. Y mae’r Ty Croes ar gyfer yr orsaf agosaf yng nhyfeiriad Dolgellau, sef y Bont Newydd. Ganwyd Ieuan Gwynedd: Medi 5, 1820, bu farw Chwefrol 23, 1852. VI .— TREFECA ,— Cartref Diwygiwr . Yn rhan brydferthaf Sir Frycheiniog, uwchlaw Talgarth, rhwng ffrydiau Wysg ac Wy, y saif coleg a phentref bychan Trefeca,—lle wnawd gan Howel Harris yn “gartref” cymundeb o dduwiolion diwyd. Ganwyd Howel Harris Ionawr 29, 1714; bu farw Gorffennaf 21, 1773. VII .— CAER GAI ,— Cartref Uchelwyr . Hen balas Rhufeinig yw Caer Gai, ar fryncyn heulog uwch ben Llyn Tegid, yn nyffryn uchaf y Ddyfrdwy. Yr oedd y Fychaniaid, hen deulu Caer Gai, yn enwog am eu hathrylith. Y ddau fwyaf adnabyddus ohonynt ydyw Gwerfyl Fychan a Rowland Fychan.

Text from Project Gutenberg, public domain.