Ceiriog
Ar lethrau’r Berwyn, uwch Dyffryn Ceiriog, y ganwyd ac y magwyd John Ceiriog Hughes ym 1832. Casgliad o’i ganeuon telynegol gorau yw’r gyfrol hon, a ddetholwyd gan Owen M. Edwards o waith bardd a adawodd ei febyd mynyddig i lafurio ym mŵg a thwrw Manceinion. Yno, ymhell o fugeiliaid a llethrau ei gartref, y deffrowyd ei awen, a thrwy ei hiraeth y rhoddwyd bod i’w gân ar ei thlysaf. Ceir yma berlau fel “Nant y Mynydd,” “Aros mae’r Mynyddoedd Mawr,” “Alun Mabon,” a “Myfanwy,” yn darlunio bywyd y bugail a serch syml gwerin Cymru.
Trwy’r cyfan, tri pheth oedd agos at galon Ceiriog: llenyddiaeth Cymru, yr Eisteddfod, ac addysg ei wlad. Ei naturioldeb syml a’i gydymdeimlad dwys a roes swyn anfarwol i’w waith, gan gyffwrdd tannau pob calon ddynol. Dyma ganeuon a ddaeth â llawenydd—ac ambell ddeigryn—i filoedd o Gymry, gan gadw’n fyw alawon a thraddodiadau’r hen wlad. Telynegwr mwyaf Cymru yn wir.
How it begins
Ar un o lethrau’r Berwyn y ganwyd ac y magwyd Ceiriog. Gadawodd ei gartref anghysbell a mynyddig pan yn fachgen; a’i hiraeth am fynyddoedd a bugeiliaid bro ei febyd, tra ym mŵg a thwrw Manceinion, roddodd fod i’w gân pan ar ei thlysaf ac ar ei thyneraf. Mab Richard a Phoebe Hughes, Pen y Bryn, Llanarmon Dyffryn Ceiriog, oedd John Ceiriog Hughes. Ganwyd ef Medi 25ain, 1832. Aeth i’r ysgol yn Nant y Glog, ger y llan. Yn lle aros gartref ym Mhen y Bryn i amaethu ac i fugeila wedi gadael yr ysgol, trodd tua Chroesoswallt yn 1848, i swyddfa argraffydd. Oddiyno, yn 1849, aeth i Fanceinion; ac yno y bu nes y daeth ei enw yn adnabyddus trwy Gymru. Deffrowyd ei awen gan gapel, a chyfarfod llenyddol, a chwmni rhai, fel Idris Vychan, oedd yn rhoddi pris ar draddodiadau ac alawon Cymru. Yn 1858 yr oedd yn adrodd rhannau o’i gân fuddugol,—“Myfanwy Fychan,”—yn Eisteddfod Llangollen, am y mynydd a’i gartref. Yn 1860 cyhoeddwyd ei “Oriau’r Hwyr;” daeth hwn ar unwaith yn un o’r llyfrau mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Yn 1861 priododd un o rianod gwlad Ceiriog. Yn 1862 cyhoeddwyd ei “Oriau’r Bore,” lle mae ei awen ar ei thlysaf ac ar ei grymusaf. O hynny hyd ddiwedd ei oes, daliodd i ganu.
Text from Project Gutenberg, public domain.