BoltRead

Cerddi'r Mynydd Du / Sef Caneuon Hen a Diweddar

by Unknown

cy · ~50 min at 250 WPM

Casgliad o farddoniaeth Gymraeg yw "Cerddi'r Mynydd Du", sef caneuon hen a diweddar yn dathlu ardal Cwmgiedd a'r Mynydd Du ym Mrycheiniog. Drwy gerddi gan amryw o feirdd lleol — fel G. ap Lleision, R. Beynon a Gwilym Wyn — cawn bortread o'r fro: hen amaethdy Brynygroes a ddaliwyd gan yr un llinach dros bedwar can mlynedd, mynwent Cwmgiedd, llynnau'r Giedd, a Llyn-y-Fan. Cyflwynir y gyfrol i frodor a ymfudodd i Seattle, ac mae llawer o'r cerddi'n cofio dyddiau mebyd, serch, a'r capel.

Themâu canolog y casgliad yw hiraeth, atgof, a'r cwlwm rhwng pobl a'u bro enedigol. Ceir yma fyfyrdod ar dreigl amser — newid ar fro a bryn, hen gyfoedion wedi mynd — ac ar grefydd, natur a chymundeb â Duw ar lethrau'r mynydd. Mae'n bwysig fel cofnod o ddiwylliant barddol cymunedol Cymru a'i thraddodiad o ganu gwlad.

Read this book

How it begins

Cerfiad mewn trawst perthynol i hen amaethdy Brynygroes, yn dynodi adeg ei adeiladu, ac enw ei breswylydd. Mae y lle wedi ei ddal gan yr un llinach am dros 400 0 flynyddoedd. Bryn-Y-Groes. Mynwent Cwmgiedd. Gored Y Giedd. Trem I'r Mynydd Du. Cwmgiedd (Rhan Isaf). Ffynon-Y-Cwar. Pont-Ynys-Twlc. Penparc. Llocior'r Defaid. Maen Derwyddol Ger LLaw Llyn-Y-Fan Fawr. LLyn-Y-Fan. Cerfiad mewn trawst perthynol i hen amaethdy Brynygroes, yn dynodi adeg ei adeiladu, ac ewn ei breswylydd. Mae y lle wedi ei ddal gan yr un llinach am dros 400 o flynyddoedd. Bryn-Y-Groes. CYFLWYNEDIG 1 GRIFFITH DAVIES, Ysw., SEATTLE, WASHINGTON, AMERICA. At foneddwr—brodor glân, Lyfr bychan, dos a'th gân, Nid oes genyf anrheg well Iddo ar Gyfandir pell Na'r caneuon syml hyn— Cerddi bro ei faboed gwyn. Yma gwelodd gynta'r byd, Giedd suai gwsg ei gryd, Yn ei dyfroedd laslanc llon Dysgodd gyntaf nofio'r don, Ar ei glanau yfai ddysg, Yn ei llynau daliai'r pysg. Am flynyddau wedi hyn Cerddai'r fro, a dringai'r bryn. Anturiaethus fu ei daith I'r pellderoedd lawer gwaith; A chyfrinach anian gu Glywodd ar y Mynydd Du. Myn brodorion yr Hen Wlad Adrodd beunydd mewn mwynhad Am ei deithiau yma a thraw Gyda'i lyfr yn ei law; Hoffai wybod meddwl dyn, Meddwl Duw yn fwy na'r un.

Text from Project Gutenberg, public domain.