I'r Aifft Ac Yn Ol
Cyfrol deithio bersonol yw hon, lle mae'r awdur yn adrodd hanes ei daith o Gymru i'r Aifft a Chanaan ar droad yr ugeinfed ganrif. Wedi breuddwydio er yn blentyn am gael gweld gwlad y Nîl, y pyramidiau a'r Sphinx, mae'n cychwyn o'r diwedd ar long tua Alecsandria, gan ddisgrifio'r criw, bywyd bob dydd ar y daith, y glanio, a'i grwydradau drwy Gairo a glannau'r afon. Ceir yma ddyddiadur byw, troeon trwstan a myfyrdodau, cyn iddo droi yn ôl am adref.
Nid arweinlyfr mo hwn ond llenyddiaeth, fel y nododd Elfed yn ei ragair: daw'r golygfeydd atom â lliw myfyrdod yr awdur arnynt i gyd. Y mae'r Dwyrain a'i grefydd yn gefndir i synfyfyrio ar y Beibl — ar Joseff, Moses a hanes yr Iesu — ac ar grud yr hil a'n ffydd. Ei werth pennaf yw deffro meddwl y darllenydd a'i gadw ar ddihun, gan ddwyn byd pell yn nes mewn Cymraeg cyfoethog.
How it begins
MAE llawer wedi ei ysgrifenu ar ymweliadau â’r Aifft a Chanaan, o dro i dro, mewn ieithoedd eraill yn gystal ag yn y Gymraeg. Ond credaf fod lle i’r llyfr hwn, am ei fod yn wahanol i’r rhan fwyaf, os nad yr oll, o’i gyfathrach. Bydd yn fwy personol. Yma ceir y golygfeydd a’r digwyddiadau nid yn sefyll allan ar eu pen eu hun, fel pethau diberthynas; yn hytrach deuant atom â lliw myfyrdod y gweledydd arnynt i gyd. Bydd arddull ac argraffiadau meddyliol yr awdwr yn rhan o honynt, ac yn eu gwneud felly yn wahanol i’r hyn ydynt gan neb arall. Nid yw llyfr o fath hwn i’w restru ymysg arwein-lyfrau ( guide-books ) a phethau o’r fath: llenyddiaeth ydyw, ac fel llenyddiaeth y mae i’w ddarllen a’i fwynhau. Os na fydd y darllenydd yn cydweled â phobpeth, bydd hyny’n glod i’r awdwr ac iddo yntau, fe ddichon; oblegid gwn mai hoffach gan yr awdwr fydd deffro meddwl, a’i gadw ar ddihun, nag enill rhywysgafn-air ogymeradwyaeth teg yr olwg arno, ond byr ei hoedl. Os daw’r llyfr â ni i adnabod yn well y Dwyreinfyd didwrf, cryd yr hil a chryd ein crefydd, bydd hyny yn dâl am ei ddarllen ac am ei ysgrifenu. ELFED. Llundain: Gorphenaf, 1904. Gan GWYLFA.
Text from Project Gutenberg, public domain.