BoltRead

Geiriadur Cymraeg a Saesneg Byr

by Sir Owen Morgan Edwards

cy · ~195 min at 250 WPM

Geiriadur dwyieithog byr yw hwn a luniodd Syr Owen Morgan Edwards i gynorthwyo myfyrwyr Cymraeg yr Oesoedd Canol. Ei brif amcan yw cynnig geirfa hwylus ar gyfer llenyddiaeth y cyfnod rhwng Gruffydd ab Cynan a Beibl 1588, gan nad oedd geiriadur hawdd ei gael ar gyfer y cyfnod hwnnw. Dechreuodd drwy fwriadu cywiro a thalfyrru cyfieithiad Thomas Jones o eiriadur Dr. John Davies, ond, ar gymhelliad yr Athro J. Morris Jones, aeth ymhellach a chwblhau'r gwaith trwy ei ddarllen ei hun a chymorth geiriaduron Edward Lhuyd, William Owen Pughe a D. Silvan Evans. Ceir hefyd restrau o enwau personau a lleoedd.

Y mae'r llyfr bach hwn yn drysor i bawb sy'n ymddiddori yn iaith a llenyddiaeth Cymru'r Oesoedd Canol, gan ddiogelu geiriau a oedd ar arfer yn 1588. Cydnabu Edwards yn ostyngedig ei fod yn anghyflawn, a gwahoddodd ddarllenwyr i'w wella. Saif fel cofeb i gariad un o brif ysgolheigion Cymru at ei famiaith a'i threftadaeth.

Read this book

How it begins

Amcan y Geiriadur hyr bwn yw rhoddi ychydig gymorth i efrydwyr Cymraeg y canol oesoedd. Denwyd fi at y gwaith, oherwydd nad oes Eiriadur hawdd ei gael i lenyddiaeth Cymreig y cyfnod rhwng Gruffydd ab Cynan a Beibl 1588. Fy amcan cyntaf oedd cywiro a thalfyrru cyfieithiad Thomas Jones o Dictionarium Britannico-Latinum Dr. Davies. Y Geiriadur Cymreig a Lladin a Lladin a Chymraeg hwn yw’r goreu eto; ond y mae yn anghyflawn, ac nid yw yn hawdd i’w gael. Ysgrifennodd y Dr. Davies ei ragymadrodd i’w Eiriadur y dydd olaf o Fai, 1632. Cyhoeddodd Thomas Jones ei gyfieithiad ohono yn 1688. Drwy annog yr Athraw J. Morris Jones, penderfynais wneyd ychwaneg na chywiro a chrynhoi; gwnes y Geiriadur mor gyflawn ag y gallwn drwy fy narllen fy hun, a chymorth Geiriaduron diweddarach. Defnyddiais, yn enwedig, Archæologia Edward Lluyd, 1707; Geiriadur Dr. W. Owen Pughe, 1803, rhyfeddod o wybodaeth a llafur, er ei ddamcaniaethau ofer a’i ddychmygion gwyllt; a Geiriadur anghyflawn fy hen athraw D. Silvan Evans, gyda’r hwn y bu farw yn 1903 gymaint o gof o bethau Cymreig. Mor bell ac y gallwn farnu,—oddiwrth lenyddiaeth, enwau lleoedd, a’r defnydd wneir ar lafar o eiriau’n awr,—yr oedd pob gair sydd yn y Geiriadur hwn ar arfer yn 1588. Felly nid yw’r llyfr bychan hwn yn rhoddi cymorth i ddangos fel y tyfodd yr iaith er cyfnod cyfieithu’r Beibl.

Text from Project Gutenberg, public domain.